Arweinyddiaeth / Hyfforddiant Chwaraeon

Ceir sawl cyfle i arwain chwaraeon / gweithgareddau i chi fanteisio arnynt, yn dibynnu ar eich diddordeb.

Mae nifer o ysgolion yn gweithredu cymhwyster cyffredinol Sports Leaders UK mewn arwain chwaraeon. Os oes gennych ddiddordeb, ewch i wefan SLUK neu holwch eich Swyddog 5x60 am wybodaeth bellach.

Unwaith y byddwch wedi derbyn hyfforddiant, gallwch helpu arweinydd y gweithgaredd i gyflwyno gweithgareddau chwaraeon i’ch ffrindiau neu i ddisgyblion iau, gan sicrhau profiad gwerthfawr mewn hyfforddi chwaraeon.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynorthwyo mewn ysgolion cynradd, yna cysylltwch â’ch Swyddog Campau’r Ddraig lleol. Byddwch yn mynd ar gwrs hyfforddi undydd a bydd yn trefnu lleoliad i chi mewn ysgol gynradd leol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi mewn camp arbennig, yna cysylltwch â’ch Swyddog 5x60. Efallai y bydd yn gallu trefnu i chi fynychu cwrs hyfforddi ar Lefel 0 / Lefel 1 ac y byddwch yn gallu ennill cymhwyster hyfforddi a gydnabyddir yn genedlaethol mewn camp o’ch dewis chi, gan gymryd eich cam cyntaf tuag at yrfa bosibl mewn hyfforddi chwaraeon!