Ebrill 2010

Pêl Rwyd

Pêl Rwyd




Mae’n boblogaidd ar hyd a lled y byd bellach ac mae mwy nag 20 miliwn o bobl yn chwarae pêl rwyd mewn mwy na 70 o wledydd erbyn hyn, yn cynnwys Awstralia, Malawi a Jamaica!

Yng Nghymru yn unig cymerodd mwy na 2,202 o bobl ieuainc ran mewn pêl rwyd drwy gyfrwng y cynllun 5x60 y tymor diwethaf. Mae pêl rwyd yn gêm i dimau gyda saith o chwaraewyr ym mhob tîm. Er ei bod yn cael ei hystyried fel camp i ferched fel rheol, mae bechgyn yn cymryd rhan hefyd yn awr! Mae timau cymysg yn dod yn fwy a mwy poblogaidd a does dim rheswm yn y byd pam na all unrhyw un ymuno!

Chwaraeir y gêm ar gwrt petryal gyda gôl uchel y naill ben iddo. Nod y gêm yw ceisio sgorio pwyntiau’n erbyn y tîm yn gwrthwynebu drwy saethu’r bêl drwy’r cylch ym mhen draw’r cwrt (tebyg iawn i bêl fasged!). Os ydych yn dal y bêl, ni chewch gymryd mwy nag un cam cyn pasio’r bêl ac ni allwch ddal eich gafael yn y bêl am fwy na thair eiliaid, felly mae’n gêm gyflym iawn!

Yn wir, mae pêl rwyd yn galw am gyflymdra, strategaeth a chydsymudiad a chan fod pob gêm yn para 60 munud, mae’n ffordd wych o wella eich ffitrwydd cyffredinol a chan ei bod yn cael ei rhannu’n sesiynau llai o 15 munud, mae cyfle i chi gael eich gwynt atoch hefyd!