Chwefror 2010

Trampolinio

Trampolinio




...gellir olrhain hanes trampolinio yn ôl i gyfnod ein cyndadau cynharaf pryd bu i’r gwareiddiad cyntaf geisio herio disgyrchiant ac anfon person i fyny i’r awyr gan ddefnyddio crwyn anifeiliaid wedi’u hymestyn i’w daflu i fyny ac yna’i ddal yn ddiogel.

Mae’n eithriadol boblogaidd yn awr a’r tymor diwethaf gwelwyd 1,508 o bobl ieuainc yn cymryd rhan mewn trampolinio drwy gyfrwng y cynllun 5x60. Mae angen cryn ddewrder a menter ond mae hefyd o gymorth i feithrin hyder ar gyfer y rhai mwy gwangalon lle mae uchder yn y cwestiwn. Gall yr athletwyr gorau droi yn yr awyr sawl gwaith, troelli a gwneud troadau hyd at 10 metr yn yr awyr ac felly mae’r gamp nid yn unig yn gwella eich ffitrwydd a’ch cryfder yn gyffredinol ond hefyd bydd yn gwthio eich ystwythder i’r eithaf.

Ac mae pethau’n gallu bod yn fwy cymhleth fyth gyda thrampolinio cyfamserol. Yma mae dau o bobl yn gorfod perfformio’r un ymarfer yn union ar yr union yr un pryd ac ar ddau drampolîn gyferbyn â’i gilydd!

Os ydych yn meddwl y byddech yn hoffi trampolinio ac eisiau rhoi cynnig arni, cysylltwch â Swyddog 5x60 eich ysgol. Ac os ydych awydd canfod ychydig bach mwy am drampolinio yng Nghymru, yna ewch i welshgymnastics.org.