Rhagfyr 2008

Dawns

Dawns




Bydd cannoedd o ddisgyblion ledled Cymru’n dawnsio ac yn jeifio mewn lleoliad agos atoch chi yn fuan iawn, yn rowndiau rhanbarthol Pencampwriaethau Dawnsio Stryd Ysgolion Uwchradd Cymru.

Bydd grwpiau dawns o bob cwr o’r wlad yn brwydro’n erbyn ei gilydd mewn ymgais i fod yn un o’r 42 o grwpiau yn y rownd derfynol a cheisio cipio teitl y bencampwriaeth yn y gystadleuaeth fawreddog a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, fis Ionawr.

Mae fideo’r mis yma’n dilyn genethod Ysgol Uwchradd Llanedeyrn yng Nghaerdydd wrth iddynt greu eu dawns ar gyfer rownd ranbarthol Caerdydd a gynhelir ddechrau mis Rhafyr.

Pob lwc i’r genethod o Ysgol Uwchradd Llanedeyrn ac i’r holl griwiau dawnsio sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.