Mawrth 2010

Enw:

Ysgol Uwchradd Llanidloes

"Mae wedi bod yn braf gwylio myfyrwyr y chweched dosbarth yn arwain y sesiynau, tra’n helpu ac yn arwain y disgyblion iau mewn gweithgareddau llai traddodiadol. Mae hefyd wedi bod yn gyfle i ddisgyblion na fyddent wedi cael eu dewis efallai i chwarae yn nhimau’r ysgol i gymryd rhan mewn gwyliau dawns, twrnamentau a gemau rhwng ysgolion."

Ac mae’r disgyblion wrth eu bodd gyda’r cynllun yn sicr,

Meddai disgybl ym Mlwyddyn 9, Rosie, "Rwy’n hoffi pêl fasged a doedd dim clybiau o’r blaen. Nawr rwy’n gallu chwarae yn ystod amser cinio ac rwy’n cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau."

"Rwy’n mwynhau cymryd rhan yng ngweithgareddau 5x60 oherwydd maen nhw’n hwyl ac mae’n rhoi rhywbeth i ni ei wneud yn ystod amser cinio," meddai Ben, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 7.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister:

"Un o fformiwlâu llwyddiannus 5x60 yw bod y disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod amseroedd cinio ac ar ôl ysgol. Yr her yn awr yw agor drysau’r ysgolion ar gyfer 5x60 ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae llwyddiant ysgolion fel Ysgol Uwchradd Llanidloes yn gosod y sylfeini ar gyfer nod hirdymor Cyngor Chwaraeon Cymru o sicrhau bod cymaint ag y bo modd o’r ieuenctid hyn yn symud ymlaen i fod yn oedolion sy’n byw’n iach."

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn datgelu bod niferoedd cynyddol o ieuenctid ledled Cymru’n estyn am eu hesgidiau ymarfer er mwyn cymryd rhan yn 5x60. Mae’r rhaglen wedi cael ei hyrwyddo gan un a enillodd fedal arian Olympaidd, David Davies, gan Stuart Cable a chan gyflwynydd Hip Neu Sgip, Alex Jones.

Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu hysgol ar gyfer Ysgol y Mis 5 x 60.