Bydd 5x60 yn newid y ffordd y mae chwaraeon mewn ysgolion ledled Cymru’n cael ei gyflwyno ac yn trawsnewid caeau chwarae a neuaddau chwaraeon yn fwrlwm o weithgarwch o doriad gwawr nes iddi nosi!
Mae swyddogion 5x60 yn gweithio mewn 125 o ysgolion uwchradd ledled Cymru a byddant yn gwrando ar anghenion disgyblion ac yn edrych ar y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan. Bydd amserlen o weithgareddau’n cael ei llunio wedyn, yn seiliedig ar beth yn union mae’r disgyblion ei eisiau!
Awydd rhoi cynnig ar ddawnsio stryd, beicio mynydd, pêl osgoi neu godi hwyl? Yna 5x60 yw’r lle i chi!
Am wybodaeth bellach am 5x60 yn eich ardal chi, ewch i 'adran Swyddogion' y wefan hon a chysylltwch â’ch Rheolwr 5x60 lleol.
